Maer nodweddion ar blas unigryw yn rhinweddau syn cael eu colli wrth gynhyrchu ar raddfa enfawr.Mae Jessica Deathe wedi bod yn gwneud seidr a peri yn ei fferm yn Sir Fynwy ers sawl blwyddyn, gan fasnachu o dan yr enw Three Saints. Maen ffodus fod ganddi berllan peri hynafol ar ei fferm, ai hysbrydolodd i ymchwilio hanes peri ac i ymchwilio dulliau traddodiadol oi gynhyrchu fel y gallai gynhyrchu rhywbeth ag iddoi gymeriad unigryw ei hun.
Mae Jessica yn defnyddio 100% sudd, llawer ohono o fathau unigryw Gymreig o gellyg peri ac afalau seidr syn cynhyrchu peri neu seidr gwlad, lleol ag iddynt nodweddion unigol a blasau syn cael eu colli yn y diodydd masgynhyrchu cyfatebol. Mae Three Saints yn cynhyrchu cyfres o ddiodydd peri a seidr amrywogaeth sengl yn amrywio o sych i led felys. Mae Bishops Fancy yn ddiod peri syn cael ei wneud trwy ddefnyddio gellyg gaeaf unigryw Sir Fynwy ac maer gymysgedd Laughing Juice arobryn yn cynhyrchu peri lled felys poblogaidd.
Ar gael o:
Coach and Horses, Chepstow, 01291 622 626
Ar y fferm
Ar gael: Drwy'r flwyddyn, weithiau yn rhedeg allan o'r amrywiaethau fwy prin
Useful Information
Owner/Manager: Jessica Deathe
News & Special Offers
Three Saints Cider and Perry serves
Opening Times
Three Saints Cider and Perry Statistics: 0 click throughs, 125 views since start of 2025