Mae Springfield Cider wedi ei leoli o fewn 110 erw o gefn gwlad bendigedig Sir Fynwy ac yn amgylchynu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Rydym yn tyfu a gwerthu amrywiaeth o afalau seidr ac yn cynhyrchu amrywiaeth o Seidrau Cymreig pur a Sudd Afal un math.
Daw ein Seidrau an Sudd Afal o afalau syn cael eu casglu â llaw on perllannau ni ein hun. Caiff y ffrwyth ei olchi mewn dw r ffynnon naturiol au gwasgu tran ffres, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol. Rydym yn dibynnu ar furumau naturiol er mwyn eplesu, ac ni ddefnyddir unrhyw gymhorthion wrth fragu a phrosesu. Felly, mae ein cynnyrch yn hollol naturiol a phur, heb furum, dw r, sylffitau na siwgr ychwanegol.
Nid yw ein Seidrau an Sudd Afal pasteureiddiedig yn cael eu hidlo, er mwyn cadwr holl ddaioni naturiol au blas hyfryd. Rydym hefyd yn magu ceffylau Andalwsaidd a moch Kune Kune.
Yn 2007, enillodd eu seidr, Old Barn Cider, y fedal aur uchel ei bri fel Pencampwr Seidr y gystadleuaeth gyfan, a medal arian am eu seidr potel Farmhouse Cider. Yn y bencampwriaeth eleni, eu seidr dracht melys oedd Pencampwr Seidr y gystadleuaeth gyfan ac fe enillodd eu seidr Dabinett wobr aur am y seidr dracht gorau (categori melys). Fe enillodd fersiwn potel or un seidr y categori seidr Potel Amhefriog.
Ar gael o:
Irma Fingal-Rock, Trefynwy 01600 712372
Bwydydd Ross, Trefynwy 01600 715448
Bunch of Grapes, Pontypridd 01443 402934
Gentle Jane, Grosmont 01981 241655
Bar en Route, Caerdydd
Tafarndai a Gwyliau; Cysylltwch a: John Hallam 01291 627242
Ar gael: Drwy'r flwyddyn ond yn dibynnu ar gyflenwad afalau.
Useful Information
Owner/Manager: Alan a Jo Wordsworth
News & Special Offers
Seidr Springfield serves
Opening Times
Seidr Springfield Statistics: 0 click throughs, 47 views since start of 2025