Daw cig oen Pen-y-Wyrlod on praidd o ddefaid mynydd duon organig syn aeddfedun araf. Cânt eu magu ar fferm ucheldir 20 hectar yng nghysgod Mynydd Ysgyryd.
Genir yr wyn ar ddiwedd mis Mawrth a chânt eu bwydo â phorfa organig syn gyfoeth o berlysiau tan iddynt gyrraedd eu pwysau llawn, rhwng 9 a 12 mis oed.
Mae defnyddio brid bach traddodiadol, ar broses bwydo naturiol yn gyfuniad syn creu cig hynod o dyner a melys.
Yma ym Mhen-y-Wyrlod mae gennym ymrwymiad cryf i gynaladwyedd. Yn ogystal â derbyn achrediad y Gymdeithas Bridd, rydym yn aelodau o gynllun amgylcheddol Tir Gofal ac yn ddiweddar gosodom dyrbin gwynt 6kW syn diwallu ein hanghenion trydanol heb unrhyw lygredd gormodol.
Ar gael o:
Fferm Pen-y-Wyrlod, Abergavenny
01873 821387
Click to email
Caiff cig oen Pen-Y-Wyrlod ei werthu drwy archebu yng nghyntaf yn unig.
Gadewch i ni wybod os ydych eisiau darnau penodol ar gyfer eich archebion personol neu ar gyfer bwytai.
Mae ein cig oen yn ymddangos ar fwydlenni bwytai yr Hardwick ac y Walnut Tree, yn ogystal ac eraill yn reolaidd.
Useful Information
Owner/Manager: Sarah Dickens a Nick Miller
News & Special Offers
Pen-y-Wyrlod Lamb serves
Opening Times
Pen-y-Wyrlod Lamb Statistics: 49 click throughs, 910 views since start of 2025