Gwinllan Parva Farm

Mae'r winllan hon, sydd wedi ennill sawl gwobr, ar lethr heulog sy'n edrych dros Tyndyrn a'r Afon Gwy hyfryd.

Yn Ôl y son, roedd y safle’n cael ei ddefnyddio gannoedd o flynyddoedd yn Ôl gan fynachod Abaty Tyndyrn i godi gwinllannoedd. Prynwyd Fferm a Gwinllan Parva, mewn cyflwr adfeiliedig, gan Colin a Judith Dudley yn 1996.

Mae'r winllan i’w gweld ar lechwedd heulog a saif uwchben Tyndyrn a’r hyfryd Afon Gwy, y safle, yn Ôl pob tebyg, a ddefnyddiwyd gan fynachod Abaty Tyndyrn, i dyfu gwinwydd, gannoedd o flynyddoedd yn Ôl.

Yn dilyn pedair blynedd o dorchi llewys, mae Colin (a astudiodd garddwriaeth yng Ngholeg Brynbuga) a Judith, wedi llwyddo i adfer y winllan erbyn hyn i’w galluogi i gynhyrchu’n llawn unwaith yn rhagor.

Mae’r grawnwin uchel eu hansawdd o’r gwinwydd aeddfed, ers hynny, wedi cynhyrchu nifer o winoedd uchel eu safon a enillodd lu o wobrau.

Fe all ymwelwyr â Fferm Parva ddilyn llwybr drwy’r winllan i ddysgu am gynhyrchu grawnwin, cyn blasu gwin yn siop y fferm sydd hefyd yn gwerthu cynnyrch lleol, mêl a phlanhigion gardd yn ogystal â gwinwydd a dyfwyd yn y winllan.

Mae Parva Farm wedi ennill y gwobrau canlynol yng Nghystadleuaeth Gwin y Flwyddyn Cymru a Lloegr 2010:
Arian
Tintern Parva Rhosyn (rose) 2009

Efydd
Tintern Parva Afon Gwy (cymedrol sych) 2009
“ “ Bacchus (cymedrol sych) 2006
“ “ Bwthyn Rhosyn (rose) 2008
“ “ Dathliad (brut pefriog) 2005

Canmoliaeth Uchel
Tintern Parva Bacchus (sych) 2009

Mae Fferm Parva wedi ennill y gwobrau canlynol yng nghystadleuaeth Gwin y Flwyddyn o Gymru yng Nghymru a Lloegr 2008:

Gwobr Arian am Tintern Parva Bacchus 2006.

Gwobr Efydd am Tintern Parva Tŷ Gwyn 2006.

Gwobr Efydd am Dathliad Rose Sparkling 2006.

Cymeradwyaeth Uchel: Dathliad Sparkling 2004.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Lord Montegu o Beaulieu yn Nhŷ’r Arglwyddi yng Ngorffennaf 2008.

Ar gael o:

Gwinllan Fferm Parva, Tintern 01291 689636

Siop Cymunedol Brockweir a Hewelsfield, Brockweir 01291 689995

Poppies Florist, Lydney 01594 841631


* Ar gael drwy'r flwyddyn

Useful Information

Gwinllan Parva Farm

Owner/Manager: Colin and Judith Dudley

Tyndyrn Monmouthshire NP16 6SQ Wales
phone: 01291 689636 fax:

News & Special Offers

Gwinllan Parva Farm serves

Opening Times

Gwinllan Parva Farm Statistics: 7 click throughs, 71 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community