Llanthony Valley Organics

Mae ein fferm ddefaid a bîff organig yn Nyffryndir godidog Euas o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rydym yn fferm ddefaid a chig eidion organig yn Nyffryndir godidog Euas o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Stoc gymharol fach sydd gennym sy’n pori ar borfa sy’n rhydd o gemegau, felly’n darparu amgylchedd naturiol i’r anifeiliaid grwydro a datblygu. Rydym yn awyddus iawn i annog bywyd gwyllt, gyda phyllau, perthi sydd wedi eu gosod yn draddodiadol a choetiroedd a glaswelltiroedd digyffro; croesewir ymwelwyr i fwynhau’r rhwydwaith o lwybrau sydd ar ein fferm.

Mae modd ymweld â’n fferm ar unrhyw adeg, ond fe’ch cynghorir i ffonio os hoffech gwrdd â ni, neu archebu’n cynnyrch. Rydym yn gwerthu pecynnau o gig oen a chig eidion o wahanol faint; ceir fanylion ar ein gwefan, ac rydym yn dosbarthu ein nwyddau yn rhad ac am ddim o fewn 15 milltir o’r Fenni.

Ar gael o:

Llanthony Valley Organics, Abergavenny 01873 890701

* Ar ael drwy'r flwyddyn

Useful Information

Llanthony Valley Organics

Owner/Manager: Mark Morgan a Brigit Reheusser

Fferm Maes-Y-Beran Llandewi Nant Hodni Monmouthshire NP7 7NL Wales
phone: 01873 890701 fax:

News & Special Offers

Llanthony Valley Organics serves

Opening Times

Llanthony Valley Organics Statistics: 5 click throughs, 139 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community