Ym Mragdy Kingstone rydym yn frwd dros gwrw go iawn. Heb ei gyfaddawdu gan anhyblygrwydd dulliau masnachu modern, rydym yn dewis hyrwyddo cwrw a wnaed â llaw a chwrw potel gan ddefnyddio dw r mwynol ar cynhwysion gorau. Nid ywr cwrwn cael ei hidlo, a chaiff ei botelu i ehangu ansawdd y swigod a chreu ansawdd sydd yn fwy ysgafn. Gobeithiwn y byddwch yn ei fwynhau cymaint ag yr ydym ni yn ei fwynhau!
Mae bragdy Kingstone wedi ei leoli yn Nhyndyrn ac yn agored yn ddyddiol drwy gydol y flwyddyn o 9am tan 4:30pm ac eithrio dydd Iau a dydd Sul. Mi fydd cyfle ir ymwelwyr ir Bragdy flasur cwrw. Gallwch ddewis cwrw i fynd gydach cinio gwerinwr sydd yn cynnwys cynnyrch on gardd, wrth edrych dros Ddyffryn Gwy. Mae Bragdy Kingstone yn gartref ir siop Cwrw Go Iawn sydd â dros hanner cant o wahanol fathau o gwrw, o bob cwr o Gymru.
Ar gael o:
Siop Cwrw Go Iawn Bragdy Kingstone a Siop Meadow Farm, Tintern 01291 680101
Irma Fingal Rock, Sir Fynwy
Garej Overmonnow, Sir Fynwy 01600 712632
Farmers Market Monmouth, every 4th Saturday of the month
Waitrose, Monmouth 01600 772552
* Ar gael drwy gydol y flwyddyn
Useful Information
Owner/Manager: Edward a Tori Biggs
News & Special Offers
Kingstone Brewery serves
Opening Times
Kingstone Brewery Statistics: 0 click throughs, 64 views since start of 2025