Gwinllan Ancre Hill

Ein huchelgais yw gwneud Gwin Pefriol o'r radd flaenaf, yn y dull Champenoise traddodiadol, gyda'i nodweddion unigryw ei hun.

Plannwyd y winllan mewn dau gam yn Ebrill 2006 ac Ebrill 2007 ac rydym yn tyfu pedair math, Chardonnay, Pinot Noir, Seyval Blanc, a Triomphe; bydd y cyntaf yn barod ym mis Hydref 2008. Tyfir y gwinwydd ar lethrau sy’n wynebu’r de, mewndyffryn cysgodol sydd â phridd calchfaen a hinsawdd meso, delfrydol.

Ein dyhead yw creu Gwin Pefriol o safon ryngwladol, yn y dull Champenoise traddodiadol, gyda’i flas unigryw ei hun. Byddwn hefyd yn arbenigo mewn cynhyrchu Pinot Noir a fydd hefyd yn Win o Ansawdd sydd â nodweddion unigryw ei hun. Bydd arferion gwinwyddaeth o’r radd flaenaf ar safle delfrydol, yn cyfrannu at wireddu’r nod hwn.

Mae Ancre Hill Estates wedi ennill dwy Wobr Ryngwladol uchel eu bri, a gyhoeddwyd ar 18 Mai yn Ffair Win Ryngwladol Llundain 2010, am eu cynhaeaf cyntaf erioed, Gwin Rhanbarthol Cymraeg Gwyn 2008. Cawsant Fedal Arian hefyd yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter a Medal Efydd yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Gwin a Gwirodydd.

Yng nghystadleuaeth Gwin y Flwyddyn o Gymru a Lloegr 2010 fe enillodd Ancre Hill y gwobrau a ganlyn:

Arian
Gwin Gwyn Sych Rhanbarthol o Gymru 2009

Efydd
Gwin gwyn sych canolig rhanbarthol o Gymru 2009
Gwin gwyn rhanbarthol o Gymru

Cymeradwyaeth Uchel
Gwin rosé rhanbarthol o Gymru 2009

Mi allwch edrych ar a phrynu ein cynnhyrch ni yn:

Drws y seler, Ancre Hill Vineyard, Trefynwy, Sir Fynwy
01600 714152

neu drwy ein gwefan:

website link

Useful Information

Gwinllan Ancre Hill

Owner/Manager: Richard a Joy Morris

Lon Rockfield Mynwy Monmouthshire NP25 5HS Wales
phone: 01600 714152 fax:

News & Special Offers

Gwinllan Ancre Hill serves

Opening Times

Gwinllan Ancre Hill Statistics: 3 click throughs, 60 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community