Castell Biwmares

Castell Biwmares

Castell godidog enfawr sy’n gwbl gymesur. Y castell olaf yn rhaglen adeiladu fawr Edward I yng ngogledd Cymru...bechod na chafodd ei orffen!

Gydag arian yn brin a’r Albanwyr yn achosi mwy a mwy o broblemau i’r frenhiniaeth yn Lloegr, roedd ei afael dynn ar Gymru yn dechrau llacio. Bu’n rhaid i Edward neu ‘Longshanks’ fel y’i gelwid oherwydd ei daldra anhygoel, ganolbwyntio ar bethau eraill a dyna ddiwedd ar y gwaith...

Yn dechnegol berffaith ac wedi’i adeiladu ar ffurf cynllun ‘muriau o fewn muriau’ cywrain, roedd Castell Biwmares yn y 13eg ganrif o ran datblygiadau technolegol yn cyfateb i long ofod yn glanio’n ddiseremoni ar Ynys MÔn heddiw.

Gallwch gwyno fel arfer os yw cynlluniau eich cymydog i roi estyniad ar adeilad ychydig yn ormodol. Cafodd y broblem ei datrys mewn ffordd wahanol iawn saith canrif yn Ôl. Gorfodwyd poblogaeth Llanfaes i symud 12 milltir (19km) i ffwrdd i Niwbwrch fel y gellid adeiladu castell newydd Edward. A oedd unrhyw wrthwynebiad? Na, taw piau hi...gallech golli’ch pen – yn llythrennol!

Useful Information

Castell Biwmares
Biwmares, Ynys Mon Isle of Anglesey LL58 8AP Wales
phone: 01248 810361 fax:

News & Special Offers

Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.

Entrance Charge

Opening Times

Mynediad olaf 30 munud cyn cau. 1 Ebr-31 Hyd 09 9am-5pm yn ddyddiol 1 Tach 09-31 Maw 10 Llun-Sad 9.30am-4pm, Sul 11am-4pm Ar gau 24, 25, 26 Rhag, 1 Ion

Castell Biwmares Statistics: 1 click throughs, 1836 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community